2014 Rhif  1835 (Cy. 189)

AMAETHYDDIAETH, CYMRU

Rheoliadau Cynllun Taliad Sylfaenol y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Dosbarthiad Rhanbarthau Talu Dros Dro) (Cymru) 2014

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth, o ran Cymru, ar gyfer gweinyddu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1307/2013 (OJ Rhif L 347, 20.12.2013, t 608), mewn perthynas â thaliadau uniongyrchol i ffermwyr o dan gynlluniau cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin.

Maent yn gwneud trefniadau i Weinidogion Cymru hysbysu ffermwyr am ddosbarthiad rhanbarthau talu dros dro eu parseli caeau at ddibenion hawlio cymorth o dan y cynllun taliad sylfaenol.

Mae rheoliad 3 yn darparu bod tri rhanbarth yng Nghymru at ddibenion y cynllun taliad sylfaenol ac mae’n darparu mecanwaith i ffermwyr apelio yn erbyn dyfarniad gan Weinidogion Cymru o ran dosbarthiad rhanbarthau talu dros dro.

Mae Asesiad Effaith Rheoleiddiol o effeithiau’r Rheoliadau hyn ar gostau busnes, mewn perthynas â busnesau fferm yng Nghymru, wedi ei baratoi mewn cysylltiad â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copïau ohono oddi wrth yr Adran Dyfodol Cynaliadwy, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.


2014 Rhif  1835 (Cy. 189)

AMAETHYDDIAETH, CYMRU

Rheoliadau Cynllun Taliad Sylfaenol y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Dosbarthiad Rhanbarthau Talu Dros Dro) (Cymru) 2014

Gwnaed                           11 Gorffennaf 2014

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol  Cymru      14 Gorffennaf 2014

Yn dod i rym                              4 Awst 2014

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi([1]) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972([2]) mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin yr Undeb Ewropeaidd.

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn yr adran honno ac mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i ddehongli’r cyfeiriadau at offerynnau’r UE yn y Rheoliadau hyn fel cyfeiriadau at Reoliad y Cyngor fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 a pharagraff 1A o Atodlen 2 iddi.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.(1)(1)  Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllun Taliad Sylfaenol y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Dosbarthiad Rhanbarthau Talu Dros Dro) (Cymru) 2014.

(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(3) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 4 Awst 2014.

Dehongli

2.(1)(1) Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “cnydau âr” (“arable crops”) yw ydau, hadau llin, had olew, gwreiddgnydau, cnydau ffrwythau neu gnydau protein, gan gynnwys pys dringo;

ystyr “dosbarthiad rhanbarthau talu dros dro” (“provisional payment region classification”) yw dyfarnu parsel cyfeirio yn rhan o ranbarth talu gan Weinidogion Cymru yn unol â rheoliad 3 ac mae i “parsel cyfeirio” yr un ystyr a roddir i “reference parcel” yn Erthygl 2(25) o Reoliad y Comisiwn;

ystyr “Rheoliad y Comisiwn” (“the Commission Regulation”) yw Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) Rhif 640/2014 ar 11 Mawrth 2014 sy’n ychwanegu at Reoliad (EU) Rhif 1306/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran y system weinyddu a rheoli integredig a’r amodau ar gyfer gwrthod taliadau neu eu tynnu yn ôl a chosbau gweinyddol sy’n gymwys i daliadau uniongyrchol, cymorth datblygu gwledig a thrawsgydymffurfio([3]);

ystyr “Rheoliad y Cyngor” (“the Council Regulation”) yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1307/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar 17 Rhagfyr 2013 sy’n gosod rheolau ar gyfer taliadau uniongyrchol i ffermwyr o dan gynlluniau cymorth o fewn fframwaith y polisi amaethyddol cyffredin([4]).

(2)  Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at  un o offerynnau yr UE yn gyfeiriad at yr offeryn hwnnw fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd.

Rhanbarthau

3.(1)(1) At ddibenion Erthygl 23 o Reoliad y Cyngor, mae tri rhanbarth talu yng Nghymru, sef—

(a)     rhostir;

(b)     yr ardal dan anfantais ddifrifol;

(c)     pob tir arall.

(2) At y dibenion hyn—

ystyr “rhostir” (“moorland”) yw unrhyw dir—

(a)     sydd wedi ei ddosbarthu gan Weinidogion Cymru fel rhostir ar Fap Rhostir Cymru 1992 sydd wedi ei adneuo yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ, a

(b)     y mae ganddo uchder o 400 o fetrau neu’n uwch, ac

(c)     y mae ganddo lystyfiant ucheldirol lled-naturiol yn bennaf, neu sy’n cynnwys cerrig brig a llystyfiant ucheldirol lled-naturiol yn bennaf, a ddefnyddir yn anad dim ar gyfer pori garw, a

(d)     nid oes ganddo fwy na 40% o’r rhywogaethau amaethyddol wedi eu gwella hynny a restrir yn yr Atodlen, ac

(e)     nid oes cnydau âr yn tyfu arno;

ystyr “yr ardal dan anfantais ddifrifol” (“the severely disadvantaged area”) yw tir—

(a)     sydd yn hanfodol addas ar gyfer cynhyrchu da byw yn llai dwys ond, heb fod yn hanfodol addas ar gyfer cynhyrchu cnydau mewn niferoedd sydd yn sylweddol fwy na’r hyn sy’n angenrheidiol i fwydo’r cyfryw dda byw ag sy’n gallu cael eu cynnal ar dir o’r fath y mae ei gynhyrchiant amaethyddol wedi ei gyfyngu o ran ei ystod gan y pridd,  y dirwedd, y wedd neu’r hinsawdd, neu gyfuniad ohonynt, a

(b)     sydd wedi ei nodi fel ardal dan anfantais ddifrifol ar Fap Dosbarthiad Rhanbarthau Talu Cymru 2014 sydd wedi ei adneuo yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ;

ystyr “pob tir arall” (“all other land”) yw pob tir arall nad yw’n dod o fewn diffiniad o rostir neu ardal dan anfantais ddifrifol ac sydd wedi ei nodi felly ar Fap Dosbarthiad Rhanbarthau Talu Cymru 2014 sydd wedi ei adneuo yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

(3) Mae rheoliad 3 o Reoliadau Cynlluniau Cymorthdaliadau a Grantiau Amaethyddol (Apelau) (Cymru) 2006([5]) (darparu gweithdrefn apelio) yn gymwys i ddosbarthiad rhanbarthau talu dros dro fel pe bai’n ddyfarniad perthnasol.

 

Rebecca Evans

Y Diprwy Weinidog Amaeth a Physgodfeydd, o dan awdurdod y Gweinidog Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru

11 Gorffennaf 2014


                                     YR ATODLEN                                  Rheoliad 3(2)(d)

Rhywogaethau Amaethyddol Wedi eu Gwella

Rhygwellt Parhaol (Lolium perenne)

 

Rhygwellt yr Eidal (Lolium multiflorum)

 

Meillion Gwyn (Trifolium repens)

 

Meillion Coch (Trifolium pratense)

 

Rhonwellt (Phleum pratense)

 



([1])           O.S. 2010/2690.

([2])           1972 p. 68. Diwygiwyd adran 2(2) gan adran 27(1)(a) o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p. 51) ac adran 3(3) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 (p. 7) a Rhan 1 o’r Atodlen iddi. Mewnosodwyd paragraff 1A o Atodlen 2 gan adran 28 o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006.

([3])           OJ Rhif L 181, 20.6.2014, t 48.

([4])           OJ Rhif L 347, 20.12.2013, t 608.

([5])           O.S. 2006/3342 (Cy. 303), fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2007/2900 (Cy. 251) ac O.S. 2010/1807 (Cy. 175).